Cynhwysion
Hanner cwpanaid o laeth
hanner sgim
4 owns (125 gram) o
farjarin
2 owns (60 gram) o siwgr
brown tywyll
Hanner pwys (225 gram) o
ffrwythau sychion (gan gynnwys bricyll, llugaeron a chydig o sinsir
glacé)
Hanner pwys (225 gram) o
flawd codi
Hanner llond llwy de o
sinamon
Ychydig o nytmeg ffres wedi'i
ratio
Pinsiad o halen
Llond llwy gawl o farmalêd (os
mynner)
1 ŵy canolig (wedi'i guro)
1. Paratowch dun bara dau bwys a'i leinio â phapur gwrthsaim neu gasys cwcio papur.
2. Berwch y llaeth, y marjarin, y siwgr a'r ffrwythau am bum munud a'u gadael i oeri. Rhowch mewn powlen gymysgu.
3. Ychwanegwch y marmalêd. Yna ychwanegwch y blawd, y sbeisys a'r halen bob yn ail â'r ŵy.
4. Cymysgwch yn dda a rhowch yn y tun a phobwch mewn ffwrn araf (150°C ) am awr neu nes bod sgiwer yn dod allan yn lân.
5. Gadewch y dorth i oeri cyn ei thorri a thaenu menyn.
No comments:
Post a Comment